Teithiau CyDA
Ymunwch â’n taith newydd a chanfod yr hanes y tu ôl i drawsnewidiad CyDA a chael cipolwg cefn llwyfan ar brif ganolfan eco’r DU.
Darganfyddwch sut y cafodd hen chwarel lechi ei thrawsnewid yn amrywiaeth o gynefinoedd cyfoethog ac archwiliwch themâu craidd CyDA megis adeiladu gwyrdd, garddio organig, ynni adnewyddadwy a mwy.
Byddwch yn cychwyn trwy ymdroelli i fyny drwy goedwigoedd a reolir yn gynaliadwy. Yna, datgelir golygfeydd ysblennydd dros y bryniau o amgylch, a chewch gipolwg o dreftadaeth llechi CyDA. Byddwch hefyd yn ymweld â’r gronfa ddŵr ar y brig ac yn dysgu am systemau dŵr oddi-ar-y-grid CyDA. Yna ymlaen i brif safle CyDA. Yma, ceir adeiladau a wnaed o bridd cywasgedig a byrnau gwellt, gerddi organig sy’n llawn syniadau ar gyfer eich gardd chi gartref, a chyfle i ddysgu mwy am yr amryw osodiadau ynni adnewyddadwy a leolir ledled safle CyDA.
Byddwch yn gorffen y daith drwy gerdded i lawr i’r cae o randiroedd cynhyrchiol a rennir gyda phrosiect lleol sy’n ceisio annog mwy o bobl leol i dyfu llysiau.