Cynllunio eich Ymweliad
Mynediad trwy archebu ymlaen llaw yn unig
Fedrwn ni ddim aros i’ch croesawu chi yn ôl – fe sylwch ein bod wedi gwneud rhai newidiadau i helpu i gadw pawb yn ddiogel
Archebwch eich tocynnau ymlaen llaw
Pennir slotiau 30 munud ar gyfer tocynnau a archebir ymlaen llaw. Yr amser mynediad cynharaf yw rhwng 10:00 a 10:30 a’r olaf yw rhwng 14:30 a 15:00. Mae’r safle yn cau am 16:00.
Oedolyn: £6.50
Consesiwn: £5.50*
Plentyn: £3.00*
*Consesiwn: Myfyrwyr, pobl dros 60 oed a phobl ddi-waith.
*Plentyn: 4-16 oed. Plant dan 4 am ddim
Manylion mynediad
I sicrhau diogelwch a phellter cymdeithasol o 2 fedr, nid yw rheilffordd clogwyn cydbwysedd dŵr CyDA yn gweithredu ar hyn o bryd. Gellir cael mynediad i’r ganolfan ymwelwyr drwy gerdded i fyny lôn gymharol serth sy’n cymryd tua 10 munud. Mae parcio hygyrch ar gael i’r rheiny sydd ei angen.
Fe welwch ragor o wybodaeth yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin ymwelwyr.
ARCHEBU TOCYNNAU
Cyfyngir nifer y tocynnau ar gyfer pob slot amser fel bod modd rheoli llif yr ymwelwyr a lleihau’r angen i giwio.
Mynediad am ddim i bobl leol!
Os ydych yn aelod o CyDA neu’n byw yn barhaol o fewn codau post SY19 a SY20, bydd yn bleser gennym gynnig mynediad am ddim i chi drwy gydol y flwyddyn.
Cysylltwch â ni i archebu eich slot.

Cyrraedd CyDA
Lleolir CyDA dair milltir i’r gogledd o Fachynlleth a gellir ei gyrraedd yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Machynlleth ar linell drên Birmingham-i-Aberystwyth, a gellir ymuno â’r lein hon o’r Amwythig a Wolverhampton hefyd. Mae bysiau yn rhedeg bob awr o orsaf drenau Machynlleth ac yn aros y tu allan i’r safle.
Cadwch lygad allan am gyfyngiadau teithio yn sgil COVID-19.Cyn eich ymweliad
A oes angen archebu ymlaen llaw?I sicrhau diogelwch ein hymwelwyr a’n staff, rydym yn rheoli llif yr ymwelwyr o amgylch y safle drwy ddarwahanu amserau mynediad i slotiau cyrraedd 30 munud.
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw cyn dod i CyDA, a gwrthodir mynediad i unrhyw un sy’n cyrraedd y tu allan i’w slot penodedig (yn ddibynnol ar y cyfyngiadau capasiti).
Dewch â chopi digidol neu brintiedig o’ch cadarnhad archebu gyda chi.
Diben y newidiadau hyn yw cefnogi’r rheol pellter cymdeithasol 2 fedr.
Byddwn yn cymryd y wybodaeth hon wrth i chi archebu – yn benodol oddi wrth arweinydd y grŵp.
Mae’n rhaid i ni rannu’r wybodaeth hon am hyd at 21 diwrnod ar ôl eich ymweliad er mwyn helpu i dracio lledaeniad unrhyw achosion.
Am ragor o wybodaeth gweler tudalennau gwefan Profi ac Olrhain GIG.
Nid oes rhaid i chi adael y safle ar ôl cyfnod penodol o amser ond, tra’ch bod ar y safle, gofynnir i gymryd y rheol pellter cymdeithasol 2 fedr ac unrhyw ragofalon eraill o ddifrif.
Yn dilyn canllawiau’r llywodraeth, os ydych yn dangos unrhyw symptomau COVID-19, neu os ydych, drwy wybod i chi, wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sy’n arddangos symptomau, mae’n hynod bwysig eich bod yn hunan-ynysu gartref ac felly nid ydych yn gallu dod i CyDA.
Gweler canllawiau Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth.
Gallwch siwr! Nid yn unig y mae CyDA yn lle gwych am bicnic, fe gewch fap yn dangos llwyth o lefydd ffantastig i’w fwynhau, gan gynnwys yn y coedwigoedd, y gerddi neu yn edrych allan dros olyfa drawiadol.
Ydych siŵr! Mae croeso mawr i aelodau pedair coes y teulu – y cyfan a ofynnir yw eich bod yn defnyddio’r bag baw bioddiraddadwy a ddarperir, a chadw’r ci ar dennyn byr ar bob adeg.
Wrth ymweld â CyDA
A ydyw gwasanaeth gwybodaeth rhad ac am ddim CyDA ar gael?Yn anffodus ni allwn agor y ddesg gwybodaeth am ddim ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os ydych yn chwilio am rywbeth penodol, neu os hoffech gysylltu â’r tîm, anfonwch ebost at info@cat.org.uk a bydd rhywun yn cysylltu â chi yn fuan.
Yn anffodus, gan fod y mwyafrif o’n gweithgareddau teulu yn rhai ymarferol, penderfynwyd peidio â chynnal gweithgareddau ychwanegol. Fodd bynnag mae digon i’r plant i’w fwynhau gan gynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol ac mae llwythi o lefydd yn yr ardd a’r coedwigoedd i’w harchwilio.
Bydd, rydym yn cadw’r maes chwarae ar agor ond gofynnir i rieni fod yn gyfrifol am sicrhau bod y rheolau pellter cymdeithasol 2 fedr yn cael eu parchu.
Nid ydym yn agor prif siop CyDA ar hyn o bryd ond fe fydd siop dros dro llai o faint ar gael ger y caffi ar gyfer anrhegion a phethau da
Oherwydd bod rhaid cael llai o staff er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol yn ein ceginau, rydym yn cynnig bwydlen lai sy’n cynnwys bwydydd picnic llysieuol blasus. Fel arall, mae croeso mawr i chi ddod â bwyd eich hunain i’w fwynhau yn un o safleoedd picnic prydferth CyDA.
Mae ein caffi yn hollol lysieuol ac fel arfer cynigir amrywiaeth o ddewisiadau fegan hefyd. Mae gan ein tîm proffesiynol brofiad helaeth o arlwyo ar gyfer pob math o ofynion dietegol.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydym yn cynnig bwydlen lai sy’n cynnwys diodydd, cacennau a bwydydd picnic, felly mae ein gallu i arlwyo ar gyfer pob math o ofynion dietegol ychydig y llai na’r arfer.
Gofynnwch i aelod o staff y caffi os oes gennych unrhyw ofynion dietegol penodol neu siaradwch â ni ymlaen llaw drwy anfon e-bost at visit@cat.org.uk
Gallwch, rydym yn derbyn arall parod, fodd bynnag gofynnwn i chi ddefnyddio cerdyn lle y bo modd.
Mesurau diogelwch
Sut rydych chi’n gwneud y toiledau’n ddiogel i’w defnyddio?Rydym yn gofyn i grŵp o un aelwyd yn unig fynd i mewn i’r cyfleusterau toiled ar y tro, a gweithredir amserlen lanhau briodol drwy’r amser.
Gan ein bod yn hyderus bod mesurau cadw pellter cymdeithasol digonol mewn lle, nid ydym yn gofyn i ymwelwyr wisgo masgiau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno gwisgo un, mae croeso i chi wneud hynny.
Mae yna rai ardaloedd arddangos dan do, ond nid ydynt yn hanfodol i’r profiad – mae digonedd i’w weld os ydych am archwilio’r arddangosfeydd allanol, y gerddi a llwybr y chwarel yn unig.
Bydd, rydym yn darparu nifer o fannau diheintio dwylo ar gyfer ymwelwyr ar draws y safle.
Hygyrchedd a Chyrraedd CyDA
A oes gan y safle fynediad i’r anabl?Mae rheilffordd y clogwyn ar gau ar hyn o bryd ac mae mynediad i’r Ganolfan Ymwelwyr ar hyd llwybr byr cymharol serth, sy’n daith o tua 10 munud. Mae llefydd parcio i’r anabl ar dop Rhodfa’r De, gan osgoi’r daith gerdded.
I gael gwybodaeth ynghylch lle i barcio a mynediad i’r safle, siaradwch ag aelod o’r staff yn y maes parcio isaf / swyddfa docynnau.
Mae’r arddangosfeydd wedi eu gosod ar hyd a lled safle awyr agored 7 erw. Mae’r mwyafrif o lwybrau’r safle wedi eu gwneud o gerrig mân wedi’u cywasgu sydd gan mwyaf yn wastad. Fodd bynnag efallai bydd angen cymorth ar ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, yn enwedig pan fydd y tywydd yn arw.
Mae gan yr holl adeiladau fynediad ramp neu wastad ac mae’r drysau, mynedfeydd a choridorau yn ddigon llydan i gadeiriau olwyn.
Mae toiledau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn adeilad croeso’r maes parcio isaf a ger y siop ar ben rheilffordd y clogwyn.
Mae gennym sgwteri symudedd a chadair olwyn drydan y gellir eu hurio yn ddi-dâl drwy anfon e-bost ddigon ymlaen llaw at visit@cat.org.uk.
Mae gan CyDA orsaf wefru gyhoeddus ar gyfer cerbydau trydan sydd AM DDIM i ymwelwyr.
Oherwydd y newidiadau y bu’n rhaid eu gwneud i sicrhau y gellir ailagor yn ddiogel, ni allwch ar hyn o bryd archebu pwynt gwefru ymlaen llaw. Ni ellir felly sicrhau argaeledd ar hyn o bryd.
Mae’r pwynt gwefru yn soced 32 amp Math 2 (neu Mennekes) sy’n caniatáu gwefru cyflym, hyd at 4 awr yn nodweddiadol. Dewch a’ch ceblau gwefru eich hun os gwelwch yn dda.
Siaradwch ag aelod o’r staff yn y swyddfa docynnau isaf i gael y manylion.
Mae gennym ddigonedd o lefydd parcio am ddim ar y safle a maes parcio gorlif ar gyfer cyfnodau prysur iawn.
Cysylltu â Ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni a bydd aelod o’r tîm yn dod i gysylltiad â chi.